Modern Family

Modern Family
Genre Comedi sefyllfa
Rhaglen ffug-ddogfen
Crëwyd gan Christopher Lloyd
Steven Levitan
Serennu Ed O'Neill
Sofía Vergara
Julie Bowen
Ty Burrell
Jesse Tyler Ferguson
Eric Stonestreet
Sarah Hyland
Ariel Winter
Nolan Gould
Rico Rodriguez
Aubrey Anderson-Emmons
Cyfansoddwr y thema Gabriel Mann
Gwlad/gwladwriaeth Yr Unol Daleithiau
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 11
Nifer penodau 250
Darllediad
Sianel wreiddiol ABC
Rhediad cyntaf yn 23 Medi 2009 - presennol
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol

Rhaglen ffug-ddogfen Americanaidd yw Modern Family a ddarlledwyd ar ABC am y tro cyntaf ar 23 Medi 2009. Adnewyddwyd y rhaglen am ei seithfed gyfres gan ABC ar 7 Mai, 2015.

Mae'r rhaglen yn dilyn bywydau Jay Pritchett a'i deulu, sy'n byw mewn ardal faestrefol o Los Angeles: Jay, ei ail wraig, llysfab a'i faban a dau blentyn hŷn, eu gwŷr a'u plant. Cafodd Christopher Lloyd a Steven Levitan y syniad am y gyfres pan yn rhannu straeon am eu "teuluoedd modern" hwy. Cyflwynir y gyfres mewn arddull rhaglen ffug-ddogfen, gyda'r cymeriadau ffuglennol yn siarad yn uniongyrchol i'r camera. Darlledwyd y gyfres am y tro cyntaf ar 23 Medi, 2009 gyda 12.6 miliwn o wylwyr, a chomisiynwyd Modern Family am gyfres lawn ar Hydref 8, 2009.[1][2]

Mae'r gyfres wedi derbyn adolygiadau cadarnhaol gan adolygwyr[3] ac wedi ennill llwyth o wobrau, gan gynnwys y Wobr Emmy am 'Gyfres Gomedi Rhagorol', ym mhob un o'r pum mlynedd ddiwethaf a'r Wobr Emmy am 'Actor Ategol Rhagorol mewn Cyfres Gomedi' pedair gwaith - dwywaith am waith Eric Stonestreet a dwywaith i'r actor Ty Burrell, yn ogystal â'r wobr 'Actores Ategol Rhagorol mewn Cyfres Gomedi' a gyflwynwyd ddwywaith i Julie Bowen. Enillodd hefyd y Wobr Golden Globe am y 'Gyfres Deledu Orau - Sioe Gerdd neu Gomedi'.[4][5]

  1. Seidman, Robert (24 Medi 2009). "Wednesday broadcast finals: Modern Family down a tenth, Cougar Town up a tenth with adults 18–49". TV by the Numbers. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-10-05. Cyrchwyd 2009-10-20.
  2. "From Metacritic (23 Medi 2009)". Metacritic.com. 15 Rhagfyr 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-03-01. Cyrchwyd 2011-05-28.
  3. Wolfson, Matthew. "Modern Family: Season Five". Slant Magazine. Cyrchwyd 15 Mai 2014.
  4. "Primetime Emmy Award Nominations". Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2012.
  5. April MacIntyre (30 Awst 2010). "Emmy Awards 2010 Winners List, Surprises and Omissions". Monsters and Critics. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-06. Cyrchwyd 2010-08-30.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy